Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd – 4B |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 9 Mai 2012 |
|
|||
Amser: |
12:00 - 13:15 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas Peter Black |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu (Swyddog) Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Dave Tosh (Swyddog) Non Gwilym (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Ysgrifennydd)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Nid oedd buddiannau i’w datgan.
2. Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Gosododd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yr adroddiad ar drafodaethau Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog gerbron y Cynulliad ar 4 Mai.
Ystyriodd y Comisiynwyr oblygiadau argymhellion y Bil a’r Cynllun a chytunwyd ar y modd y byddai’r Comisiynydd sy’n gyfrifol yn cyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 ar 16 Mai.
Wrth benderfynu sut y dylai ymateb, ystyriodd y Comisiwn:
· Ei uchelgais i gael i gydnabod fel corff seneddol dwyieithog sy’n esiampl i eraill a’i ymrwymiad i wella’i wasanaethau dwyieithog;
· Yr angen sicrhau hyblygrwydd er mwyn medru datblygu a gwella gwasanaethau dros gyfnod;
· Costau unrhyw gyfrifoldebau newydd sydd wedi’u cynnwys yn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ac effaith ei flaenoriaethau ar gyfer gwella gwasanaethau dwyieithog mewn gwahanol ffyrdd;
· Y gwaith ymgynghori a wnaed yn 2011 cyn y broses ddeddfu;
· Yr angen i sicrhau bod staff yn gwbl ymwybodol o oblygiadau’r Bil a’r Cynllun ar wasanaethau;
· Yr angen i sicrhau nad yw deddfwriaeth i geisio sicrhau bod ieithoedd swyddogol yn cael eu trin yn gyfartal yng ngwaith y Cynulliad yn cyfyngu’n anfwriadol ein gallu i newid y modd y caiff gwasanaethau eu darparu.
3. Unrhyw Fusnes Arall
Trafododd y Comisiynwyr y sylw a gafodd y Cynulliad yn y cyfryngau yn ddiweddar.